amdanom ni

Rheolir y cwmni gan Ifan Emlyn ac Osian Huw o stiwdio yn Llanllyfni (ger Caernarfon), Gogledd Cymru. Mae’r ddau yn gerddorion proffesiynol yn y band Candelas. Arbeniga Osian mewn cyfansoddi a gwaith fel session musican ac mae arbenigedd Ifan mewn recordio ac ôl-gynhyrchu. O fewn y stiwdio mae ystafell reoli a recordio ynghyd â chaban recordio. Hefyd mae cegin, lolfa ac ardal eang y tu allan ar gyfer ymlacio a chymdeithasu.

cyfansoddi

Gall DRWM gyfansoddi cerddoriaeth o unrhyw genre ar gyfer cleient. Meddant ar brofiad mewn cyfansoddi caneuon poblogaidd (gan gynnwys geiriau), sioeau cerdd, cerddoriaeth gerddorfaol a cherddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu. Yn ogystal, mae gwasanaeth sgorio cerddoriaeth a cherddorfaethu ar gael.

recordio

Gydag arbenigedd DRWM, gellir recordio cerddoriaeth neu sain ar gyfer unrhyw brosiect, o fewn neu y tu allan i’r stiwdio. Fel cwmni gallwn ddarparu offerynnwyr proffesiynol megis drymwyr, gitaryddion neu pianyddion i gyfoethogi eich prosiect.

Wrth defnyddio’r offer recordio RME a desg Toft ATB ynghyd â’r meddalwedd diweddaraf, dyma rai o’r gwasanaethau recordio y medrwn eu cynnig:

  • Recordio band byw (hyd at 24 trac ar y pryd)
  • Tros-ddybio
  • Foley
  • Recordio ar leoliad

cymysgu a mastro

Boed yn sesiwn acwstig 5 trac neu’n sesiwn gerddorfaol o dros gant o draciau, cynigia DRWM wasanaeth cymysgu a fydd yn amlygu potensial unrhyw brosiect.

Gall hyn gynnwys:

  • Prosesu trwy offer analog a digidol
  • Golygu Llais/ Traw
  • Golygu Rhythmig/ Samplau Drymiau
  • Golygu MIDI
  • Re-Ampio
  • Mastro

ôl-gynhyrchu sain

Trwy ddefnyddio holl adnoddau DRWM e.e. yr ystafell dawel, offer recordio-ar-leoliad a meddalwedd arbenigol i’r diwydiant, gallwn gynnig nifer o wasanaethau ôl-gynhyrchu megis:

  • Effeithiau sain
  • Troslais
  • Adfer sain
  • Golygu sain